Saesneg    |    Cymraeg

Barod i Ymgeisio?

Gwneud cais ar-lein drwy Glicio Yma

Hysbysu

** APPLICATIONS NOW CLOSED - CEISIADAU NAWR WEDI CAU **
**Deadline for 2023 applications is 01/11 2023 / Dyddiad cau i geisiadau 2023 yw 01/11/23**

Please note that 1st year payment amount is now £500 (+£250 EMA)
Sylwer mai swm taliadau Blwyddyn 1af nawr yw £500 (+£250 EMA)

Gwiriwch os ydych yn gymwys

Cym ymgeisio, sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer un o'n grantiau drwy Glicio Yma

Ymgeisio Ar-lein

Gwneud cais ar-lein drwy Glicio Yma

Gwirio a chymeradwyo

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn talu eich grant drwy drosglwyddiad banc

Unrhyw Gwestiynau?

Cliciwch Yma i gysylltu â'n tîm

GWYBODAETH AM JOHN PARRY

Ganwyd John Parry i deulu o fferm fynydd yn Nantglyn, ger Dinbych. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dinbych tan 1966 cyn iddo lwyddo cael lle ym Mhrifysgol Sheffield i astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg. Fe raddiodd gyda gradd 2.1. Yna fe lwyddodd i sicrhau lle yng Ngholeg Brazenose, Rhydychen i astudio Gradd Meistr mewn Astudiaethau Busnes Amaeth.

Ar ôl ennill ei Radd Meistr fe benderfynodd ddychwelyd adref i weithio ac yna rhedeg fferm y teulu. Ni anghofiodd yr aberth a wnaeth ei deulu er mwyn ei alluogi i brofi bywyd yn y Brifysgol. Yn hwyrach yn ei fywyd, ac yntau heb unrhyw berthynas agos yn fyw, penderfynodd ei fod eisiau helpu pobl ifanc drwy roi cymorth iddynt ddatblygu eu hunain a gwireddu eu potensial.

Bu farw John yn Hydref 2006 gan adael cymynrodd sylweddol ar ei ôl; roedd yn dymuno iddo gael ei ddefnyddio i greu Ymddiriedolaeth a fyddai'n talu grantiau blynyddol i fyfyrwyr a oedd yn dymuno parhau gydag Addysg Bellach.



GWYBODAETH AM YMDDIRIEDOLAETH JBP

Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw "Cyflwyno grantiau blynyddol i fyfyrwyr Addysg Bellach, yn enwedig y rheiny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig."

Mae Ymddiriedolaeth John Bennett Parry yn dathlu 10 mlynedd o ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr Addysg Bellach. Byddai John wedi ei syfrdanu fod ei etifeddiaeth yn parhau drwy'r Ymddiriedolaeth a'n bod wedi cefnogi dros 300 o fyfyrwyr. Rydym yn gobeithio, gyda buddsoddiad ariannol cadarn, y gallwn barhau i gefnogi myfyrwyr am y 10 mlynedd nesaf.

Mae Ymddiriedolaeth Addysgol John Bennett Parry yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen 1123459) a reolir gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr



GRANTIAU YMDDIRIEDOLAETH JBP

Penderfynir ar faint y wobr a gwobr ychwanegol yn flynyddol gan yr Ymddiriedolwyr

Ar hyn o bryd maint y wobr yw £500 y flwyddyn, mae disgyblion sy’n derbyn credyd teulu yn gallu derbyn £250 yn ychwanegol.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cais ar gyfer eu blwyddyn gyntaf rhaid cadw at y rheolau hyn:

  1. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer eich cyfrif, gallwch Logio i mewn a gwneud cais gan glicio ar y tab “Ceisiadau” yn eich Ardal defnydd a dewis y botwm “Ychwanegu Cais”
  2. Wedi i ni dderbyn eich cais, byddwch yn derbyn e bost gennym gyda ffurflen tystiolaeth i’w chwblhau
  3. Pan fydd y dystiolaeth wedi ei chwblhau a’i chymeradwyo gan eich Prifysgol bydd angen i chi logio i’ch cyfrif, clicio ar y tab ‘Ceisiadau’ a chlicio ar ‘Ceisiadau’ yn y rhestr. Gallwch uwchlwytho copi o’r ffurflen gan ddefnyddio y botwm ‘Uwchlwytho Tystiolaeth’ sydd ar waelod eich cais.
  4. Cyn gynted ag y cymeradwyir eich cais fe dderbyniwch ebost yn gofyn i chi logio mewn i’ch cyfri a chyflwyno eich manylion banc.
  5. Pan fydd gennym eich manylion banc fe fyddwn yn talu eich grant. Rhoddwn wybod i chi pan fydd y taliad wedi ei wneud.
  6. Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf ac sy’n awyddus i wneud cais am yr ail neu’r trydydd tro, dyma fydd y drefn:

  • Pan ddechreuir ar geisiadau byddwch yn derbyn ebost gennym yn gofyn i chi logio i mewn i’ch cyfrif a chychwyn ar gais newydd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod.
  • Wedi derbyn eich cais byddwch yn derbyn ebost gennym gyda ffurflen tystiolaeth i’w chwblhau
  • Pan fydd y dystiolaeth wedi ei chwblhau a’i chymeradwyo gan eich Prifysgol bydd angen i chilogio i’ch cyfrif, clicio ar y tab ‘Ceisiadau’a chlicio ar ‘Ceisiadau’ yn y rhestr. Gallwch uwchlwytho copi o’r ffurflen gan ddefnyddio y botwm ‘Uwchlwytho Tystiolaeth’ sydd ar waelod eich cais.
  • Cyn gynted ag y bydd hyn wedi ei gymeradwyo byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau eich bod wedi cael eich derbyn. Mae’n bwysig eich bod yn gwiro bod eich manylion banc yn parhau yn gywir neu eu hychwanegu os nad ydynt yno.
  • Byddwn wedyn yn trefnu i dalu’r grant. Rhoddir gwybod i chi trwy ebost pan fydd hyn wedi ei wneud.
  • Amserlen Ceisiadau

    • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Tachwedd 1af
    • Cadarnheir ceisiadau erbyn Rhagfyr 1af
    • Telir grantiau cyn Rhagfyr 31ain

    Oherwydd nifer fawr o geisiadau mae’r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn, ni wneir taliadau ar yr un pryd. Cymerwch amser i wiro eich cais cyn ei chyflwyno gan y gall gwneud ymholiadau oedi taliad.

    Rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw at y dyddiadau hyn. Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn y y dyddiadau uchod yna cysylltwch â ni trwy y modd ‘Cysylltiadau”

    Barod i Ymgeisio?

    Gwneud cais ar-lein drwy Glicio Yma